Digital inclusion news, resources, and events. Newyddion cynhwysiant digidol, adnoddau, a digwyddiadau.
Click here to view this email in your browser |
|
|
Scroll down to view this newsletter in English.
Helo a chroeso i gylchlythyr diweddaraf Cymunedau Digidol Cymru! Os ydych yn cael trafferth i glicio ar un o’r dolenni canlynol, anfonwch e-bost at marketingteam@cwmpas.coop. Cynnwys: |
Newyddion Cefnogi Adnoddau Digwyddiadau Sesiynau sgiliau digidol am ddim |
Sgroliwch i lawr i ddarllen rhifyn y mis hwn. |
Partneriaeth yn rhoi hwb i hyder digidol cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn Abertawe
Mae tîm Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles (DCW) Cwmpas wedi gweithio gyda Renew Mind Centre ers cwpl o flynyddoedd, gan drosglwyddo'r sgiliau a'r wybodaeth i gefnogi preswylwyr yn ddigidol. Dywedodd Myriam N'Gossema o Renew Mind Centre, sy'n gweithio gydag unigolion o leiafrifoedd ethnig: “Mae’r hyfforddiant [gan DCW] yn sicr wedi ehangu fy ngwybodaeth i. Rydw i wedi dysgu sgiliau newydd ym mhob sesiwn, ac rydw i hefyd wedi cael fy nghyflwyno i offer defnyddiol fel apiau cyfieithu, sy’n helpu i chwalu rhwystrau iaith.”
Darllenwch fwy --- Cymru yn ehangu mynediad digidol i drigolion tai cymdeithasol
Bydd cyfle i fwy o bobl mewn tai cymdeithasol ddod yn ddefnyddwyr technoleg ddigidol hyderus cyn bo hir, wrth i Lywodraeth Cymru ehangu ei gynllun grant ‘Safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol’ llwyddiannus i gyrraedd mwy o ddarparwyr tai ledled Cymru. Darllenwch fwy amdano a gweld fideo astudiaeth achos effaith gan Gymdeithas Tai Gogledd Cymru yma.
--- Mentora Digidol Am Ddim i Sefydliadau'r Trydydd Sector yng Nghymru
Mae Newid newydd lansio Galwad Agored yn gwahodd sefydliadau'r trydydd sector a mentrau cymdeithasol ledled Cymru i wneud cais am fentora digidol wedi'i deilwra drwy'r rhaglen Newid. P'un a ydych chi eisiau rhoi hwb i sgiliau digidol yn eich tîm, gwella darparu gwasanaethau ar-lein, neu lunio eich strategaeth ddigidol, mae'r cynnig mentora hwn wedi'i gynllunio i gefnogi eich nodau. Mae Newid yn gymorth mentora a ariennir yn llawn a all eich helpu: Asesu'r broses bresennol yn y gweithle; Arbed amser ac arian; Adeiladu hyder digidol
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5:00yp, 30 Mehefin 2025 Hyd Rhaglen: Mehefin 2025 – Mawrth 2026 Cyswllt ar gyfer Ymholiadau: marc.davies@cwmpas.coop
Gwnewch gais nawr neu darganfyddwch fwy: https://cy.cwmpas.coop/latest/ar-agor-nawr-mentora-digidol-am-ddim-i-sefydliadaur-trydydd-sector-yng-nghymru/ Mae Newid yn rhaglen bartneriaeth a ddarperir gan WCVA, Cwmpas a ProMo-Cymru, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a'i chefnogi gan CDPS.
--- “Baked In, Not Bolted On”: Ymateb Good Things i Gynllun Gweithredu Cynhwysiant Digidol y Llywodraeth
“Rydyn ni’n annog y Llywodraeth i fod yn fwy beiddgar a chanolbwyntio ar y dyfodol, gan osod gweledigaeth (gyda thargedau a cherrig milltir) ar gyfer sut gall cynhwysiant digidol yrru nid yn unig Prydain fodern decach ond hefyd un gryfach gyda chyfleoedd i bawb. Dyfodol gyda bywydau gwell, cymdeithas gynhwysol ac economi gryfach.” Mae partneriaid rhaglen Cymunedau Digidol Cymru, Good Things Foundaton, wedi ymateb i alwad am dystiolaeth Cynllun Gweithredu Cynhwysiant Digidol y Llywodraeth. Mae sylwadau Prif Swyddog Gweithredol y Grŵp, Helen Milner OBE ar eu hymateb yn y blog hwn.
---
Gweithio Gyda’n Gilydd i Feithrin Gallu Digidol yng GIG Cymru
Mae Cymunedau Digidol Cymru wedi cyd-weithio ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i hyrwyddo cynhwysiant digidol ochr yn ochr â thrawsnewid digidol a datblygu gallu. Y nod yw helpu’r gweithlu gofal iechyd i ddeall effaith trawsnewid digidol a sut y gallant gyfrannu at GIG Cymru mwy cynaliadwy. Darganfyddwch fwy yma. --- Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig 'Arloesol' bellach yn fyw yn hanner fferyllfeydd cymunedol Cymru
Mae gwasanaeth digidol a ddisgrifiwyd gan staff gofal iechyd fel un sy'n 'arloesol' a'r 'peth gorau rydyn ni erioed wedi'i wneud' bellach ar gael mewn dros 50% o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru. Cyrhaeddodd y Rhaglen Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS), sy'n cael ei harwain gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) ac sy'n gwneud y broses bresgripsiynau'n haws ac yn fwy diogel i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, y garreg filltir y mis hwn wrth i'r broses o'i chyflwyno'n raddol i bob cymuned yng Nghymru ennill momentwm. Darllenwch fwy
---
Technolegau digidol yn sail i symud i gymorth iechyd meddwl mynediad agored yng Nghymru
Mae arweinwyr ar draws disgyblaethau digidol ac iechyd meddwl wedi cyfarfod fel rhan o ymrwymiad ar y cyd i drawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn ddigidol. Archwiliodd y Ford Gron y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Digidol botensial technolegau digidol wrth wella profiad a chanlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau a staff. ---
Rhwydwaith Ar-lein Newydd ar gyfer Cynhwysiant Digidol mewn Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru
Mae Cymunedau Digidol Cymru yn hwyluso Rhwydwaith Ar-lein Newydd ar gyfer Cynhwysiant Digidol mewn Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru. Nod y rhwydwaith yw creu lle ymarferol a chydweithredol i sefydliadau rannu gwybodaeth, cyd-ddatblygu adnoddau, a chryfhau’r gefnogaeth i gynhwysiant digidol ar draws cymunedau amrywiol Cymru.
Cofrestrwch i ymuno â’r rhwydwaith: Cofrestrwch yma Ymholiadau? Cysylltwch â Mohammed Basit – mohammed.basit@cwmpas.coop |
We Mind the Gap
Dros y saith mlynedd diwethaf, mae Cymunedau Digidol Cymru wedi cefnogi We Mind The Gap yn eu hybiau yn Wrecsam a Sir y Fflint, drwy ddarparu offer digidol fel Chromebooks, gliniaduron a hyfforddiant wedi’i deilwra. Rhannodd Craig, swyddog lles rhaglen We Grow: “Mae o hyd wedi bod i roi yn ôl i bobl ifanc a’u helpu nhw i dyfu. Mae sgiliau digidol bellach yn rhan bwysig o’r daith honno. Gyda mynediad at Chromebooks a lle diogel i ddysgu, maen nhw’n adeiladu hyder, cysylltu ag eraill, a sylweddoli beth sy’n bosibl ar gyfer eu dyfodol.” Gwyliwch ein fideo effaith ar ein gwefan.
--- |
Cwmpas: Ymwybyddiaeth o'r Cyfryngau yn RhCT
Gan gydweithio gydag Ofcom a’n partneriaid, amcan y rhaglen yw codi ymwybyddiaeth er mwyn bod unigolion yn RhCT yn deall y cyfryngau a'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn well, a sut mae llywio’r byd ar-lein yn ddiogel. Rydyn ni’n cynnal gweithdai i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yn RhCT ar sut i gyfathrebu, rhannu a chreu’n gyfrifol ar-lein wrth hefyd dysgu am osgoi sgamiau a gwybodaeth ffug. Os hoffech ragor o wybodaeth ewch i'n gwefan: https://cy.cwmpas.coop/digital-society/media-literacy-in-rct/
--- Family Fund – grantiau technoleg a gweithdai digidol
Mae Family Fund yn cynnig cymorth sgiliau digidol i helpu teuluoedd sy'n magu plentyn anabl, neu ddifrifol wael, i wneud y gorau o grant technoleg Cronfa Deuluol a dysgu sgiliau ar-lein newydd. Darganfyddwch fwy ar wefan Family Fund. ---
|
Canllawiau Digidol Am Ddim ar gael nawr!
Mae Cymunedau Digidol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi lansiad canllawiau digidol newydd sbon, am ddim, sydd bellach ar gael dan yr adran "Adnoddau Hyfforddi" ar wefan CDC. Mae'r canllawiau ymarferol sy’n hawdd i'w defnyddio yn cwmpasu amrywiaeth eang o sgiliau a phynciau digidol, wedi'u dylunio i helpu unigolion, cymunedau a sefydliadau i wella eu hyder digidol a hyrwyddo cynhwysiant digidol.
P'un a ydych chi am ddysgu sut i gadw'n ddiogel ar-lein, gwella hygyrchedd digidol, neu archwilio'r offer a'r technolegau digidol diweddaraf, mae'r adnoddau hyn yn cynnig cefnogaeth werthfawr. Ewch draw i dudalen adnoddau Cymunedau Digidol Cymru heddiw, a rhowch wybod i'r rheini a fyddai'n elwa o'r canllawiau hyn! --- Pecyn Cymorth Gwerthuso Cynhwysiant Digidol
Mae’r pecyn cymorth hwn yn archwilio’r camau y gallai unrhyw grŵp neu sefydliad cymunedol eu cymryd er mwyn gwerthuso effaith prosiect cynhwysiant digidol, neu ddarnau o weithgaredd cynhwysiant digidol. Mae’n edrych ar beth yw gwerthuso a pham mae o gymorth i gynhwysiant digidol, beth yw egwyddorion gwerthuso da, ac yn archwilio’r blociau adeiladu sylfaenol sydd eu hangen i werthuso gwaith cynhwysiant digidol. Mae’r pecyn cymorth hwn yn rhannu rhai enghreifftiau o adnoddau ac studiaethau achos, ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer dadansoddi eich data.
--- Rhwydwaith Cynhwysiant Digidol Cenedlaethol
Mae Rhwydwaith Cynhwysiant Digidol Cenedlaethol y Good Things Foundation yn cynnwys miloedd o sefydliadau ar lawr gwlad sydd i gyd yn gweithio i ddarparu cymorth cynhwysiant digidol yn eu cymunedau lleol. Yng Nghymru, mae'r Good Things Foundation yn gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau Digidol Cymru. Os ydych chi'n sefydliad cymunedol sydd neu sydd eisiau cefnogi aelodau'ch cymuned i fynd ar-lein a chael mynediad at fuddion digidol - yna bydd ymuno â'r rhwydwaith yn eich helpu i wneud hynny'n union. Mae ymuno am ddim ac mae’n cynnig ystod o wasanaethau am ddim, fel:
• Mynediad i'r Banc Data Cenedlaethol a'r Banc Dyfeisiau Cenedlaethol • Hyfforddiant ac adnoddau am ddim
• Cyfleoedd rhwydweithio • Mynediad i'r llwyfan dysgu ar-lein, Learn My Way. Mae'r platfform Cymraeg i'w weld yma.
Mae’r rhwydwaith yn agored i unrhyw sefydliad sy’n darparu neu sydd eisiau darparu cymorth cynhwysiant digidol. Darganfyddwch fwy a chofrestrwch yma neu cysylltwch â hello@goodthingsfoundation.org am ragor o wybodaeth.
--- Sut mae helpu rhywun rydych yn ei adnabod i fynd ar-lein
Defnyddiwch y map hwn i chwilio am rywle cyfagos i gael cymorth i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel. Mae’r map rhyngweithiol yn dangos llefydd sy’n cynnig cymorth ar gyfer datblygu eich sgiliau digidol sylfaenol, defnyddio dyfais a chael mynediad i’r rhyngrwyd. Mae’r map yn caniatáu ichi chwilio yn ôl cod post am lefydd naill ai ar eich cyfer chi neu ar gyfer y rhai y mae angen cymorth arnynt, fel llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol.
--- |
Sioe Deithiol DCW – Cefnogi eich cymunedau I ymgysylltu ag Ap GIG Cymru
Mae Cymunedau Digidol Cymru; Hyder Digidol, Iechyd a Lles (DCW) mewn partneriaeth â DSPP yn cyflwyno sesiynau hyfforddi Sioe Deithiol Cynhwysiant Digidol er mwyn cefnogi staff a gwirfoddolwyr i helpu eraill i ymgysylltu ag Ap GIG Cymru.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r sesiwn, mae gennym bum sesiwn ar y gweill. Bydd y sesiynau'n cael eu cyflwyno yn Saesneg gyda chyfieithydd ar y pryd Cymraeg: • 16 Mehefin 10yb • 16 Gorffennaf 2yp • 12 Awst 10yb
Gallwch gofrestru ar gyfer unrhyw un o'r sesiynau rhad ac am ddim yma. ---
Pam dylai eich sefydliad ymuno â Chynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru?
Mae Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru yn rhoi cyfle unigryw i sefydliadau ddod ynghyd, cydweithio, a chael effaith go iawn wrth bontio’r rhaniad digidol. Mae’r dystiolaeth fideo gan ein haelodau Cadi, Jo, Scott, Marcus, a Hannah, yn tynnu sylw at y manteision di-ri o fod yn rhan o’r rhwydwaith hwn a gallwch wylio’r fideo hwnnw isod.
Cyfarfod nesaf Rhwydwaith CCDC ar Ymgorffori Cynhwysiant Digidol: Mehefin
Os ydych yn chwilio am ragor o wybodaeth am Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru gallwch gael rhagor o wybodaeth yma. Os ydych chi eisiau gwylio recordiadau cyfarfodydd Rhwydwaith CCDC blaenorol, gallwch ddod o hyd iddynt yma. Mae'r cyfarfodydd yn agored i holl aelodau’r CCDC. Os hoffech ymuno, e-bostiwch diaw@cwmpas.coop neu ewch i’n gwefan.
--- |
Sesiynau sgiliau digidol rhad ac am ddim mis Mehefin |
Os ydych yn gweld gweminar yn Saesneg yr hoffech chi ei gweld yn cael ei chyflwyno yn Gymraeg neu i'r gwrthwyneb, rhowch wybod i ni. Rydym yn fwy na pharod i deilwra hyfforddiant pwrpasol at eich anghenion.
Os rydych angen hyfforddiant yn eich sefydliad a’ch bod yn ansicr os allwn ddarparu'r hyfforddiant hwnnw, yna cysylltwch â ni, byddwn yn falch iawn o glywed gennych. Os ydych yn cael trafferth i glicio ar un o’r dolenni canlynol, anfonwch e-bost at marketingteam@cwmpas.coop.
Diolch! |
Dydd Mercher 4 Mehefin | 10yb Gweithgareddau digidol ysbrydoledig
|
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg.
Beth fyddwch chi’n ei gael o’r sesiwn: Nod y sesiwn hon yw eich cyflwyno i adnoddau y gallwch chi eu defnyddio i gysylltu pobl â thechnoleg ddigidol. Bydd y sesiwn yn rhoi ysbrydoliaeth a syniadau i chi ar sut i gydlynu sesiynau gweithgaredd digidol ysbrydoledig. |
Dydd Mercher 4 Mehefin | 2yp Y Gymraeg ar y we – gweithgareddau digidol ysbrydoledig i ddefnyddio’r Gymraeg ar-lein
|
Fydd y sesiwn yma yn cael ei gynnal yn y Gymraeg. Nod y sesiwn hon yw eich cyflwyno i’r ystod o adnoddau Cymraeg ar-lein sydd ar gael ac ysbrydoli siaradwyr Cymraeg a Saesneg i ddefnyddio’r Gymraeg yn ystyrlon ar y we. Yn ystod y sesiwn, byddwn yn: • Cyflwyno ffyrdd o ddefnyddio’r Gymraeg pan fyddwch ar y rhyngrwyd neu’n defnyddio offer digidol. • Dangos yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer adloniant, gwybodaeth a chymorth iaith.
• Rhoi trosolwg o adnoddau ar-lein i gefnogi dysgwyr Cymraeg. |
Dydd Llun 16 Mehefin | 10yb AP GIG Cymru: Helpu Eraill i fod Ar-Lein
|
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg. Os hoffech gael mynediad i’r sesiwn gyda chyfieithydd ar y pryd, dewiswch ‘ie‘ ar y ffurflen gofrestru a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu un. Sesiwn hyfforddi i aelodau staff a gwirfoddolwyr i gefnogi pobl i ymgysylltu ag ap GIG Cymru. Mae Cymunedau Digidol Cymru; Hyder Digidol, Iechyd a Lles (DCW) mewn partneriaeth â DSPP yn cyflwyno sesiynau hyfforddi Sioe Deithiol Cynhwysiant Digidol er mwyn cefnogi staff a gwirfoddolwyr i helpu eraill i ymgysylltu ag Ap GIG Cymru. Bydd y sesiwn yn ymdrin â: • Helpu pobl i fynd ar-lein a Deall rhwystrau i bobl ymgysylltu ar-lein
• Sgiliau a Nodweddion yr ap • Defnyddio nodweddion Hygyrchedd digidol • Bod yn ddiogel ar-lein |
Dydd Mercher 18 Mehefin | 2yp Sut y mae Offer Digidol yn gallu Cefnogi Pobl gyda’u Costau Byw
|
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn y Gymraeg. Beth fyddwch chi’n ei gael o’r sesiwn: • Rhoi cyngor ar dlodi data a pha gymorth sydd ar gael i gael gafael ar ddata a dyfeisiau. • Edrych pa wybodaeth a chymorth ariannol sydd ar-lein. • Trafod y dulliau arbed arian sydd i’w cael ar y rhyngrwyd, yn cynnwys gwefannau, y cyfryngau cymdeithasol, ac adnoddau cymunedol. |
Dydd Mercher 25 Mehefin | 10yb Cynhwysiant digidol ac ariannol a manteision rheoli arian ar-lein
|
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg. Os hoffech gael mynediad i’r sesiwn gyda chyfieithydd ar y pryd, dewiswch ‘ie’ ar y ffurflen gofrestru a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu un.
Ers mis Ebrill 2024, mae Cymunedau Digidol Cymru wedi bod yn gweithio’n thematig i ddarparu cymorth cynhwysiant digidol i bobl Cymru. Mae’r sesiwn hon yn cael ei chyflwyno gan Cymunedau Digidol Cymru, mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Arweinwyr Arian Cymru. Mae’r sesiwn hon yn ymwneud â helpu pobl i reoli eu harian ar-lein a bydd yn rhoi trosolwg o offer Arweinwyr Arian yn ogystal â’r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi pobl i fynd ar-lein a chael mynediad atynt.
Yn ystod y sesiwn hon, byddwn yn archwilio: • Dealltwriaeth o’r sgiliau digidol sy’n gysylltiedig â chael gafael ar wybodaeth ariannol ar-lein. • Trosolwg o’r gwasanaethau MaPS sydd ar gael i bobl hŷn. • Opsiynau ar gyfer cefnogi pobl i ddatblygu eu sgiliau digidol.
• Tlodi data, beth ydyw a pha opsiynau cymorth sydd ar gael i helpu pobl i fynd ar-lein. |
Dewch o hyd i Cymunedau Digidol Cymru ar gyfryngau cymdeithasol! |
News Support
Resources Events Free digital skills sessions |
Scroll down to read this month’s edition. |
Partnership boosts digital confidence for ethnic minority communities in Swansea
Cwmpas’s Digital Communities Wales: Digital Confidence, Health and Well-being (DCW) team has worked with Renew Mind Centre for a couple of years, passing on the skills and know-how to digitally support residents. Myriam N’Gossema from Renew Mind Centre, which works with individuals from ethnic minorities, said: “The training [from DCW] has definitely expanded my knowledge. I’ve learned new skills with every session, and I’ve also been introduced to useful tools like translation apps, which help break down language barriers.” Read the blog here
--- Wales expands digital access for social housing residents
More people in social housing will soon become confident digital technology users, as the Welsh Government has expanded its successful Minimum Digital Living standard grants to reach more housing providers across Wales. Read more about it and see an impact case study video from North Wales Housing Association here. --- Free Digital Mentoring for Third Sector Organisations in Wales
Newid have just launched an Open Call inviting third sector organisations and social enterprises across Wales to apply for tailored digital mentoring through the Newid programme. Whether you want to boost digital skills in your team, improve online service delivery, or shape your digital strategy, this mentoring offer is designed to support your goals. Newid is a fully-funded mentoring support can help you: Assess current workplace process; Save time and money; Build digital confidence
Application Deadline: 5:00pm, 30 June 2025 Programme Duration: June 2025 – March 2026 Contact for Queries: marc.davies@cwmpas.coop
Apply now or find out more: https://cwmpas.coop/latest/now-open-free-digital-mentoring-for-third-sector-organisations-in-wales/ Newid is a partnership programme delivered by WCVA, Cwmpas and ProMo-Cymru, with funding from Welsh Government and supported by CDPS. --- Baked In, Not Bolted On: Good Things’ Response to the Government’s Digital Inclusion Action Plan
“We urge the Government to be much bolder and future focused, setting a vision (with targets and milestones) for how digital inclusion can drive not just a fairer modern Britain but also a stronger one with opportunities for all. A future of better lives, an inclusive society and a stronger economy.” Digital Communities Wales’ programme partners, Good Things Foundaton, have responded to the Government's Digital Inclusion Action Plan Call for Evidence. Group CEO, Helen Milner OBE comments on their response in this blog.
--- Working Together to Build Digital Capability in NHS Wales
Digital Communities Wales has partnered with Health Education Improvement Wales to promote digital inclusion alongside digital transformation and capability development. The aim is to help the healthcare workforce understand the impact of digital transformation and how they can contribute to a more sustainable NHS Wales. Find out more here.
--- 'Game-changing' Electronic Prescription Service now live in half of community pharmacies in Wales
A digital service described by healthcare staff as ‘game-changing’ and ‘the best thing we’ve ever done’ is now available in more than 50% of community pharmacies in Wales. The Electronic Prescription Service (EPS) Programme, which is led by Digital Health and Care Wales (DHCW) and makes the prescribing process easier and safer for patients and healthcare professionals, reached the milestone this month as a phased rollout to all communities in Wales gathers momentum. Read more
--- Digital technologies will underpin a shift to open access mental health support in Wales
Leaders across digital and mental health disciplines have met as part of a collective commitment to digital transformation of mental health services in Wales. The Roundtable on Digital Mental Health explored the potential of digital technologies in improving experience and outcomes for both service users and staff. --- Online Network for Digital Inclusion in Ethnic Minority Communities in Wales
Digital Communities Wales is facilitating a new Online Network for Digital Inclusion in Ethnic Minority Communities in Wales. The aim is to create a practical and collaborative space for organisations to share knowledge, co-develop resources, and strengthen support for digital inclusion across Wales’ diverse communities.
Sign up to join the network: Register here Queries? Contact Mohammed Basit – mohammed.basit@cwmpas.coop --- |
We Mind the Gap
Over the past seven years, Digital Communities Wales has supported We Mind The Gap in their Wrexham and Flintshire hubs, by providing digital tools such as Chromebooks, laptops and tailored training. Craig, a welfare officer for the We Grow programme, shared: “It’s always been about giving back to young people and helping them grow. Digital skills are now a core part of that journey. With access to Chromebooks and a safe space to learn, they’re building confidence, connecting with others, and realising what’s possible for their futures.” You can watch our impact video on our website.
--- |
Cwmpas: Media Literacy in Rhondda Cynon Taf
Working with Ofcom and our partners, the programme aims to raise awareness of Media Literacy and the Online Safety Act within RCT and how to navigate the online world safely. We are running workshops for those living and working in RCT on how to communicate, share and create responsibly online while learning how to avoid scams and fake information. If you’d like more information visit our website: https://cwmpas.coop/digital-society/media-literacy-in-rct/
--- Family Fund – technology grants and digital workshops
Family Fund offer digital skills support to help families raising a disabled, or seriously ill, child to make the most of Family Fund technology grant and learn new online skills. Find out more on Family Fund’s website. --- |
Free Digital Guides now available!
Digital Communities Wales is thrilled to announce the launch of brand-new, free digital guides, now accessible under the "Training Resources" section on the DCW website. These practical and user-friendly guides cover a wide range of digital skills and topics, designed to help individuals, communities, and organisations enhance their digital confidence and promote digital inclusion.
Whether you want to learn how to stay safe online, improve digital accessibility, or explore the latest digital tools and technologies, these resources offer valuable support. Head over to the Digital Communities Wales resources page today and please share these guides with those who would benefit. ---
Digital Inclusion Evaluation Toolkit
This toolkit explores the steps that any community group or organisation could take in order to evaluate the impact of a digital inclusion project, or pieces of digital inclusion activity. It looks at what evaluation is and why it’s helpful for digital inclusion, what the principles of good evaluation are, and it explores the basic building blocks needed for evaluating digital inclusion work. This toolkit shares some examples resources and case studies, alongside tips for analysing your data.
--- National Digital Inclusion Network
Good Things Foundation’s National Digital Inclusion Network is made up of thousands of grassroots organisations that are all working to deliver digital inclusion support in their local communities. In Wales Good Things Foundation works in partnership with Digital Communities Wales.
If you’re a community organisation that is or wants to support your community members to get online and access the benefits of digital - then joining the network will help you do exactly that. It is free to join and offers a range of free services, such as:
• Access to the National Databank and National Device Bank • Free training and resources • Networking opportunities
• Access to the online learning platform, Learn My Way. The Welsh platform can be found here.
The network is open to any organisation that is delivering or wants to deliver digital inclusion support. Find out more and sign up here or contact hello@goodthingsfoundation.org for more information.
--- How to help someone you know get online
Use this map to search for somewhere near you for support in using the internet safely. The interactive map shows places you can go for support to develop your basic digital skills, use a device and access the internet. The map allows you to search by postcode for places to either go yourself or signpost those in need of support such as libraries and community centres.
--- |
DCW Roadshow – Supporting your communities to engage with the NHS Wales App
Digital Communities Wales; Digital Confidence health and wellbeing (DCW) in partnership with DSPP are delivering a Roadshow of Digital Inclusion training sessions in order to support to staff and volunteers to help others to engage with the upcoming NHS Wales App. If you are interested in joining the session, we have five sessions upcoming. Sessions will be delivered in English with a Welsh interpreter. • 16 June 10am • 16 July 2pm • 12 August 10am You can register for any of these free sessions here. ---
Why should your organisation join Digital Inclusion Alliance Wales?
Digital Inclusion Alliance Wales (DIAW) provides a unique opportunity for organisations to come together, collaborate, and have a meaningful impact in bridging the digital divide. The video testimonies of our members Cadi, Jo, Scott, Marcus, and Hannah, highlight the numerous benefits of being a part of this network.
Next DIAW Network Meeting on Embedding Digital Inclusion: June
If you are looking for further information about the Digital Inclusion Alliance Wales you can find out more here. If you want to watch the recordings of previous DIAW Network meetings, you can find them here. If you would like to join the DIAW, please get in touch diaw@cwmpas.coop or visit our website.
---
|
June's free digital skills sessions |
If you see a webinar in English that you’d like delivered in Welsh or vice versa please let us know. We are more than happy accommodate your needs and create bespoke training
If your organisation has a training need and is unsure whether we can provide that training then please get in touch, we’d love to hear from you. If you have any problems clicking the links please email marketingteam@cwmpas.coop.
Thank you! |
Wednesday 4 June | 10am Inspiring digital activities
|
This session will be delivered in English.
This session aims to introduce you to resources you can use to engage people with digital technology. The session will provide you with inspiration and ideas of how to coordinate inspiring digital activity sessions. |
Wednesday 4 June | 2pm Welsh on the web – inspiring digital activities to use Welsh online
|
This session will be delivered in Welsh. The aim of this session is to introduce you to the range of online Welsh resources available and to inspire Welsh and English speakers to use Welsh meaningfully on the web. During the session, we will: • Introduce ways to use Welsh when you are on the internet or using digital tools.
• Demonstrate the resources available for entertainment, information and language support. • Provide an overview of online resources to support Welsh learners. |
Monday 16 June | 10am NHS Wales App: Helping People to Get Online
|
This session will be delivered in English. If you would like to access the session with a Welsh interpreter, please select yes on the registration form and we will make every effort to provide one. A training session for members of staff and volunteers to support people to engage with the NHS Wales app.
Digital Communities Wales; Digital Confidence health and wellbeing (DCW) in partnership with DSPP are delivering a Roadshow of Digital Inclusion training sessions in order to support to staff and volunteers to help others to engage with the upcoming NHS Wales App. The session will cover: • Helping people to get online and Understanding barriers to people engaging online • Skills and app features when engaging with the NHS Wales App • Using digital Accessibility features • Being safe online |
Wednesday 18 June | 2pm How Digital Tools can Support People with the Cost of Living
|
This session will be delivered in Welsh. What you’ll take away from the session: • Provide advice around data poverty and what support is available to access data and devices. • Overview of what financial information and support is online. • Discuss money saving tools available on the Internet, including websites, social media, and community resources. |
Wednesday 25 June | 10am Digital and financial inclusion and the benefits of managing money online
|
This session will be delivered in English. If you would like to access the session with a Welsh interpreter, please select yes on the registration form and we will make every effort to provide one.
Since April 2024, Digital Communities Wales has been working thematically to provide digital inclusion support for the people of Wales. This session is being delivered by Digital Communities Wales, in collaboration with the Money Guiders Wales Network. This session is all about helping people manage their money online and will overview Money Guiders’ tools as well as the skills required to support people to get online and access them.
During this session we will explore: • An understanding of the digital skills related to accessing financial information online. • An overview of the MaPS services available. • Options for supporting people with their digital skills development.
• Data poverty, what it is and what support options are available to help people get online. |
Find Digital Communities Wales on social media! |
|
|
Cwmpas, Spark, Maindy Road, Cardiff, CF24 4HQ
Click here to unsubscribe or here to change your Subscription Preferences. |
|
|
|