Digital inclusion news, resources, and events. Newyddion cynhwysiant digidol, adnoddau, a digwyddiadau.
Click here to view this email in your browser |
|
|
Newyddion Adnoddau Sbotolau effaith
Digwyddiadau Sesiynau sgiliau digidol am ddim |
Sgroliwch i lawr i ddarllen rhifyn y mis hwn. |
Diweddariad ar gyllid ar gyfer Cymunedau Digidol Cymru
Yn dilyn yr hysbysiad hwyr o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, sydd wedi gweld toriad o 50% £1 miliwn mewn cyllid i raglen Cymunedau Digidol Cymru, mae CDC a Cwmpas bellach mewn deialog barhaus â Llywodraeth Cymru ar ddarparu yn y dyfodol o Ebrill 1af. Bydd unrhyw ddiweddariadau ar ddarparu yn y dyfodol yn cael eu cyfleu i gleientiaid a rhanddeiliaid fel y bo'n briodol. Darllenwch Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024 i 2025.
--- Presenoldeb Gwerthfawr: Hyrwyddwyr Digidol yn y Fro
Yn y blog hwn, byddwn yn clywed gan Paul a Melanie ym Mro Morgannwg, lle mae rhwydwaith ffyniannus o Hyrwyddwyr Digidol yn cefnogi Llyfrgelloedd Bro Morgannwg, gyda chefnogaeth Cynllun Benthyca Cyfrifiaduron Llechen y Fro. Dywedodd Melanie Weeks, Uwch Lyfrgellydd gyda Llyfrgelloedd y Fro, “Mae Hyrwyddwyr Digidol Llyfrgell y Fro wedi ein helpu ni i ddarparu cymorth digidol un-i-un â ffocws i’n cwsmeriaid. Mae ganddyn nhw’r amser i siarad â phobl am eu hanghenion digidol ac ar-lein ac yna eu harwain trwy bob cam.
--- Grŵp Llywio Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru yn croesawu aelodau Newydd
Mae Grŵp Llywio CCDC yn falch Iwn o gyflwyno ei hyrwyddwyr cynhwysiant digidol diweddaraf sydd wedi ymuno â’n grŵp llywio pwrpasol. Gydag ymrwymiad i bontio’r rhaniad digidol, mae’r unigolion hyn yn dod â safbwyntiau newydd, syniadau arloesol, a brwdfrydedd a rennir dros sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl yn yr oes ddigidol. Yn y blog hwn, byddwn yn rhannu eu cefndiroedd amrywiol a’u cyfraniadau unigryw i’n cenhadaeth i feithrin byd digidol mwy cynhwysol a chysylltiedig.
--- Hyder Digidol Sir Ddinbych Mae Cwmpas newydd lansio Hyder Digidol Sir Ddinbych, prosiect cynhwysiant digidol newydd yn Sir Ddinbych a ariennir gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Bro. Nod y prosiect yw meithrin hyder digidol dinasyddion drwy gynnig cymorth cynhwysiant digidol uniongyrchol i unigolion o fewn y sir. Bydd cymorth ar gael megis cyngor cynhwysiant digidol, sesiynau galw heibio digidol a hyfforddiant uniongyrchol i alluogi dinasyddion i gael mynediad at wasanaethau digidol sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu bywydau bob dydd.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â dcdenbighshire@cwmpas.coop neu ffoniwch ni ar 0300 111 5050 --- |
Gofod adnoddau i gefnogi eich taith cynhwysiant digidol
Mae Cymunedau Digidol Cymru ei hyb adnoddau hyfforddi newydd! Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ac adnoddau ar wirfoddoli, iechyd a lles, sgiliau digidol sylfaenol a hanfodol, diogelwch ar-lein, hygyrchedd digidol, gweithgareddau digidol ysbrydoledig a’r Gymraeg ar ein gofod hwb. Os ydych chi ar ddechrau eich taith cynhwysiant digidol, gallwch fynd i ‘Ble i ddechrau’ fel cam cyntaf Gallwch hefyd gwrdd â’r tîm y tu ôl i raglen Cymunedau Digidol Cymru yma.
--- Rhwydwaith Cynhwysiant Digidol Cenedlaethol
Mae Rhwydwaith Cynhwysiant Digidol Cenedlaethol y Good Things Foundation yn cynnwys miloedd o sefydliadau ar lawr gwlad sydd i gyd yn gweithio i ddarparu cymorth cynhwysiant digidol yn eu cymunedau lleol. Yng Nghymru, mae'r Good Things Foundation yn gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau Digidol Cymru. Os ydych chi'n sefydliad cymunedol sydd neu sydd eisiau cefnogi aelodau'ch cymuned i fynd ar-lein a chael mynediad at fuddion digidol - yna bydd ymuno â'r rhwydwaith yn eich helpu i wneud hynny'n union. Mae ymuno am ddim ac mae’n cynnig ystod o wasanaethau am ddim, fel:
• Mynediad i'r Banc Data Cenedlaethol a'r Banc Dyfeisiau Cenedlaethol
• Hyfforddiant ac adnoddau am ddim • Cyfleoedd rhwydweithio • Mynediad i'r llwyfan dysgu ar-lein, Learn My Way. Mae'r platfform Cymraeg i'w weld yma.
Mae’r rhwydwaith yn agored i unrhyw sefydliad sy’n darparu neu sydd eisiau darparu cymorth cynhwysiant digidol. Darganfyddwch fwy a chofrestrwch yma neu cysylltwch â hello@goodthingsfoundation.org am ragor o wybodaeth. ---
Sut mae helpu rhywun rydych yn ei adnabod i fynd ar-lein
Defnyddiwch y map hwn i chwilio am rywle cyfagos i gael cymorth i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel. Mae’r map rhyngweithiol yn dangos llefydd sy’n cynnig cymorth ar gyfer datblygu eich sgiliau digidol sylfaenol, defnyddio dyfais a chael mynediad i’r rhyngrwyd. Mae’r map yn caniatáu ichi chwilio yn ôl cod post am lefydd naill ai ar eich cyfer chi neu ar gyfer y rhai y mae angen cymorth arnynt, fel llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol.
--- |
Iechyd a Gofal Digidol Cymru - Achrededig Siarter Cynhwysiant Digidol
Mae’r Siarter Cynhwysiant Digidol ar gyfer sefydliadau yng Nghymru sy’n hyrwyddo sgiliau digidol sylfaenol a helpu pobl i fynd ar-lein. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru un o’r sefydliadau i lofnodi’r Siarter a mynd ymlaen i ennill statws Achredu – gallwch ddarllen eu hymrwymiad sefydliadol yma. --- |
Pam dylai eich sefydliad ymuno â Chynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru?
Mae Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru yn rhoi cyfle unigryw i sefydliadau ddod ynghyd, cydweithio, a chael effaith go iawn wrth bontio’r rhaniad digidol. Mae’r dystiolaeth fideo gan ein haelodau Cadi, Jo, Scott, Marcus, a Hannah, yn tynnu sylw at y manteision di-ri o fod yn rhan o’r rhwydwaith hwn a gallwch wylio’r fideo hwnnw isod.
Os ydych yn chwilio am ragor o wybodaeth am Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru gallwch gael rhagor o wybodaeth yma. Os ydych chi eisiau gwylio recordiadau cyfarfodydd Rhwydwaith CCDC blaenorol, gallwch ddod o hyd iddynt yma. Mae'r cyfarfodydd yn agored i holl aelodau’r CCDC. Os hoffech ymuno, e-bostiwch diaw@cwmpas.coop neu ewch i’n gwefan.
--- |
Sesiynau sgiliau digidol rhad ac am ddim mis Ionawr |
Os ydych yn gweld gweminar yn Saesneg yr hoffech chi ei gweld yn cael ei chyflwyno yn Gymraeg neu i'r gwrthwyneb, rhowch wybod i ni. Rydym yn fwy na pharod i deilwra hyfforddiant pwrpasol at eich anghenion.
Os rydych angen hyfforddiant yn eich sefydliad a’ch bod yn ansicr os allwn ddarparu'r hyfforddiant hwnnw, yna cysylltwch â ni, byddwn yn falch iawn o glywed gennych. Os ydych yn cael trafferth i glicio ar un o’r dolenni canlynol, anfonwch e-bost at marketingteam@cwmpas.coop.
Diolch! |
Dydd Mercher 24 Ionawr | 10yb Sut mae Offer Digidol yn gallu Cefnogi Pobl gyda'u Costau Byw |
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg.
Yn y seminar hwn rydym yn: • Rhoi cyngor ar dlodi data a pha gymorth sydd ar gael i gael gafael ar ddata a dyfeisiau. • Edrych pa wybodaeth a chymorth ariannol sydd ar-lein. • Trafod y dulliau arbed arian sydd i’w cael ar y rhyngrwyd, yn cynnwys gwefannau, y cyfryngau cymdeithasol, ac adnoddau cymunedol. |
News Resources Impact spotlight Events Free digital skills sessions |
Scroll down to read this month’s edition. |
Update on the funding for Digital Communities Wales
Following the late notification of the draft Welsh Government budget, which has seen a 50% £1million cut in funding to the Digital Communities Wales programme, DCW and Cwmpas are now in ongoing dialogue with Welsh Government on future delivery from April 1st. Any updates on future delivery will be communicated to clients and stakeholders as appropriate. Read Welsh Government's Draft Budget 2024 to 2025.
--- An Invaluable Presence: Digital Champions in the Vale
In this blog, we’ll hear from Paul and Melanie in the Vale of Glamorgan, where there is a thriving network of Digital Champions supporting the Vale of Glamorgan Libraries, complimented by the Vale Tablet Loan Scheme. Melanie Weeks, Senior Librarian with the Vale Libraries reflects that, “The Vale Library Digital Champions have really helped us to provide focussed, one-to-one digital help to our customers. They have the time to really talk to people about their digital and online needs and then guide them through every stage.”
--- Digital Inclusion Alliance Wales Steering Group welcomes new members
The DIAW Steering Group is thrilled to introduce you to the latest champions of digital inclusion who have joined our dedicated steering group. With a commitment to bridging the digital divide, these individuals bring fresh perspectives, innovative ideas, and a shared passion for ensuring that no one is left behind in the digital age. In this blog post, we’ll share their diverse backgrounds and their unique contributions to our mission of fostering a more inclusive and connected digital world.
--- Digital Confidence Denbighshire Cwmpas has recently launched Digital Confidence Denbighshire, a new digital inclusion project in Denbighshire funded by Denbighshire County Council and UK Government through the Shared Prosperity Fund. The project aims to build citizens' digital confidence by offering direct digital inclusion support to individuals within the county. Support will take the form of digital inclusion advice, digital drop-ins and training to allow citizens to access digital services they need for their everyday lives.
For more information contact dcdenbighshire@cwmpas.coop or call us on 0300 111 5050 --- |
Resource space to support your digital inclusion journey
Digital Communities Wales has a new training resources hub! You can find information and resources on volunteering, health and well-being, foundation and essential digital skills, online safety, digital accessibility, inspiring digital activities and the Welsh language on our hub space. If you're at the beginning of your digital inclusion journey, you can go to ‘Where to start’ as a first step You can also meet the team behind the DCW programme here.
--- National Digital Inclusion Network
Good Things Foundation’s National Digital Inclusion Network is made up of thousands of grassroots organisations that are all working to deliver digital inclusion support in their local communities. In Wales Good Things Foundation works in partnership with Digital Communities Wales.
If you’re a community organisation that is or wants to support your community members to get online and access the benefits of digital - then joining the network will help you do exactly that. It is free to join and offers a range of free services, such as:
• Access to the National Databank and National Device Bank • Free training and resources • Networking opportunities
• Access to the online learning platform, Learn My Way. The Welsh platform can be found here.
The network is open to any organisation that is delivering or wants to deliver digital inclusion support. Find out more and sign up here or contact hello@goodthingsfoundation.org for more information. ---
How to help someone you know get online
Use this map to search for somewhere near you for support in using the internet safely. The interactive map shows places you can go for support to develop your basic digital skills, use a device and access the internet. The map allows you to search by postcode for places to either go yourself or signpost those in need of support such as libraries and community centres.
--- |
Digital Health and Care Wales – Digital Inclusion Charter Accredited
The Digital Inclusion Charter is for organisations in Wales which are promoting basic digital skills and helping people get online. Since the launch of the Charter hundreds of organisations have signed-up. Digital Health and Care Wales are one of the organisations to sign the Charter and go on to achieve Accreditation status – you can read their organisational commitment here.
--- |
Why should your organisation join Digital Inclusion Alliance Wales?Digital Inclusion Alliance Wales (DIAW) provides a unique opportunity for organisations to come together, collaborate, and have a meaningful impact in bridging the digital divide. The video testimonies of our members Cadi, Jo, Scott, Marcus, and Hannah, highlight the numerous benefits of being a part of this network.
If you are looking for further information about the Digital Inclusion Alliance Wales you can find out more here. If you want to watch the recordings of previous DIAW Network meetings, you can find them here. If you would like to join the DIAW, please get in touch diaw@cwmpas.coop or visit our website.
--- |
January's free digital skills sessions |
If you see a webinar in English that you’d like delivered in Welsh or vice versa please let us know. We are more than happy accommodate your needs and create bespoke training.
If your organisation has a training need and is unsure whether we can provide that training then please get in touch, we’d love to hear from you. If you have any problems clicking the links please e-mail marketingteam@cwmpas.coop.
Thank you! |
Wednesday 24 January | 10am How Digital Tools can Support People with the Cost of Living |
This session will be delivered in English.
Within this webinar we: • Provide advice around data poverty and what support is available to access data and devices. • Overview what financial information and support is online. • Discuss money saving tools available on the Internet, including websites, social media, and community resources. |
|
|
Cwmpas, Spark, Maindy Road, Cardiff, CF24 4HQ Click here to unsubscribe or here to change your Subscription Preferences. |
|
|
|