Digital inclusion news, resources, and events. Newyddion cynhwysiant digidol, adnoddau, a digwyddiadau.
Click here to view this email in your browser |
|
|
Newyddion Adnoddau Sbotolau Effaith Digwyddiadau Sesiynau sgiliau digidol am ddim |
Sgroliwch i lawr i ddarllen rhifyn y mis hwn. |
Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yw’r sefydliad ariannol cyntaf i arwyddo’r Siarter Cynhwysiant Digidol
Mynegodd Eve Wilkins, Prif Swyddog Cwsmeriaid Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, ei brwdfrydedd dros y bartneriaeth drawsnewidiol hon gan nodi, “Rydyn ni’n credu bod cynhwysiant ariannol yn mynd law yn llaw â chynhwysiant digidol. Drwy ymuno â Chymunedau Digidol Cymru, rydyn ni’n cymryd camau sylweddol tuag at greu tirwedd ariannol fwy hygyrch a chynhwysol yng Nghymru. Ein nod yw grymuso ein cydweithwyr a’n haelodau gyda’r wybodaeth a’r offer sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn llywio’r byd digidol yn hyderus.” Darllenwch fwy yma.
--- Grŵp Llywio Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru yn croesawu aelodau Newydd
Mae Grŵp Llywio CCDC yn falch Iwn o gyflwyno ei hyrwyddwyr cynhwysiant digidol diweddaraf sydd wedi ymuno â’n grŵp llywio pwrpasol. Gydag ymrwymiad i bontio’r rhaniad digidol, mae’r unigolion hyn yn dod â safbwyntiau newydd, syniadau arloesol, a brwdfrydedd a rennir dros sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl yn yr oes ddigidol. Yn y blog hwn, byddwn yn rhannu eu cefndiroedd amrywiol a’u cyfraniadau unigryw i’n cenhadaeth i feithrin byd digidol mwy cynhwysol a chysylltiedig.
--- Hyder Digidol Sir Ddinbych Mae Cwmpas newydd lansio Hyder Digidol Sir Ddinbych, prosiect cynhwysiant digidol newydd yn Sir Ddinbych a ariennir gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Bro.
Nod y prosiect yw meithrin hyder digidol dinasyddion drwy gynnig cymorth cynhwysiant digidol uniongyrchol i unigolion o fewn y sir. Bydd cymorth ar gael megis cyngor cynhwysiant digidol, sesiynau galw heibio digidol a hyfforddiant uniongyrchol i alluogi dinasyddion i gael mynediad at wasanaethau digidol sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu bywydau bob dydd.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â dcdenbighshire@cwmpas.coop neu ffoniwch ni ar 0300 111 5050. --- Gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i lansio gwasanaeth presgripsiynau electronig yn llwyddiannus yng Nghymru
Mae’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP) wedi gweithio’n agos gyda phartneriaid allweddol yn y GIG ac ym maes diwydiant i ddarparu’r gwasanaeth newydd yn gyflym – dim ond 20 mis ar ôl dechrau. Mae'r dull partneriaeth hwn wedi sicrhau mai cleifion yn y Rhyl yw'r rhai cyntaf i elwa ar EPS, sy'n galluogi meddygon teulu i anfon presgripsiynau yn electronig i fferyllfa gymunedol o ddewis y claf, heb fod angen ffurflen bapur. Darllenwch fwy yma.
|
Gofod adnoddau i gefnogi eich taith cynhwysiant digidol
Mae Cymunedau Digidol Cymru ei hyb adnoddau hyfforddi newydd! Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ac adnoddau ar wirfoddoli, iechyd a lles, sgiliau digidol sylfaenol a hanfodol, diogelwch ar-lein, hygyrchedd digidol, gweithgareddau digidol ysbrydoledig a’r Gymraeg ar ein gofod hwb. Os ydych chi ar ddechrau eich taith cynhwysiant digidol, gallwch fynd i ‘Ble i ddechrau’ fel cam cyntaf Gallwch hefyd gwrdd â’r tîm y tu ôl i raglen Cymunedau Digidol Cymru yma.
--- Rhwydwaith Cynhwysiant Digidol Cenedlaethol
Mae Rhwydwaith Cynhwysiant Digidol Cenedlaethol y Good Things Foundation yn cynnwys miloedd o sefydliadau ar lawr gwlad sydd i gyd yn gweithio i ddarparu cymorth cynhwysiant digidol yn eu cymunedau lleol. Yng Nghymru, mae'r Good Things Foundation yn gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau Digidol Cymru. Os ydych chi'n sefydliad cymunedol sydd neu sydd eisiau cefnogi aelodau'ch cymuned i fynd ar-lein a chael mynediad at fuddion digidol - yna bydd ymuno â'r rhwydwaith yn eich helpu i wneud hynny'n union. Mae ymuno am ddim ac mae’n cynnig ystod o wasanaethau am ddim, fel:
• Mynediad i'r Banc Data Cenedlaethol a'r Banc Dyfeisiau Cenedlaethol
• Hyfforddiant ac adnoddau am ddim • Cyfleoedd rhwydweithio • Mynediad i'r llwyfan dysgu ar-lein, Learn My Way. Mae'r platfform Cymraeg i'w weld yma.
Mae’r rhwydwaith yn agored i unrhyw sefydliad sy’n darparu neu sydd eisiau darparu cymorth cynhwysiant digidol. Darganfyddwch fwy a chofrestrwch yma neu cysylltwch â hello@goodthingsfoundation.org am ragor o wybodaeth. ---
Sut mae helpu rhywun rydych yn ei adnabod i fynd ar-lein
Defnyddiwch y map hwn i chwilio am rywle cyfagos i gael cymorth i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel. Mae’r map rhyngweithiol yn dangos llefydd sy’n cynnig cymorth ar gyfer datblygu eich sgiliau digidol sylfaenol, defnyddio dyfais a chael mynediad i’r rhyngrwyd. Mae’r map yn caniatáu ichi chwilio yn ôl cod post am lefydd naill ai ar eich cyfer chi neu ar gyfer y rhai y mae angen cymorth arnynt, fel llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol.
|
Hafod - Achrededig Siarter Cynhwysiant Digidol
Mae’r Siarter Cynhwysiant Digidol ar gyfer sefydliadau yng Nghymru sy’n hyrwyddo sgiliau digidol sylfaenol a helpu pobl i fynd ar-lein. Mae Hafod un o’r sefydliadau i lofnodi’r Siarter a mynd ymlaen i ennill statws Achredu – gallwch ddarllen eu hymrwymiad sefydliadol yma. |
Sioe Deithiol DCW – Cefnogi eich cymunedau I ymgysylltu ag Ap GIG Cymru
Mae Cymunedau Digidol Cymru; Hyder Digidol, Iechyd a Lles (DCW) mewn partneriaeth â DSPP yn cyflwyno sesiynau hyfforddi Sioe Deithiol Cynhwysiant Digidol er mwyn cefnogi staff a gwirfoddolwyr i helpu eraill i ymgysylltu ag Ap GIG Cymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r sesiwn, mae gennym bedwar sesiwn ar y gweill. Bydd y sesiynau'n cael eu cyflwyno yn Saesneg gyda chyfieithydd ar y pryd Cymraeg: 15 Ionawr | 10yb Gallwch gofrestru ar gyfer unrhyw un o'r sesiynau rhad ac am ddim yma. --- Pam dylai eich sefydliad ymuno â Chynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru?
Mae Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru yn rhoi cyfle unigryw i sefydliadau ddod ynghyd, cydweithio, a chael effaith go iawn wrth bontio’r rhaniad digidol. Mae’r dystiolaeth fideo gan ein haelodau Cadi, Jo, Scott, Marcus, a Hannah, yn tynnu sylw at y manteision di-ri o fod yn rhan o’r rhwydwaith hwn a gallwch wylio’r fideo hwnnw isod.
Os ydych yn chwilio am ragor o wybodaeth am Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru gallwch gael rhagor o wybodaeth yma. Os ydych chi eisiau gwylio recordiadau cyfarfodydd Rhwydwaith CCDC blaenorol, gallwch ddod o hyd iddynt yma. Mae'r cyfarfodydd yn agored i holl aelodau’r CCDC. Os hoffech ymuno, e-bostiwch diaw@cwmpas.coop neu ewch i’n gwefan. Cynhelir ein cyfarfod nesaf ar 14 Rhagfyr 10:30yb-12yh.
|
Sesiynau sgiliau digidol rhad ac am ddim mis Rhagfyr |
Rydym yn cynnal sesiynau sgiliau digidol am ddim ym mis Rhagfyr, sydd i'w gweld isod. Os ydych yn gweld gweminar yn Saesneg yr hoffech chi ei gweld yn cael ei chyflwyno yn Gymraeg neu i'r gwrthwyneb, rhowch wybod i ni. Rydym yn fwy na pharod i deilwra hyfforddiant pwrpasol at eich anghenion.
Os rydych angen hyfforddiant yn eich sefydliad a’ch bod yn ansicr os allwn ddarparu'r hyfforddiant hwnnw, yna cysylltwch â ni, byddwn yn falch iawn o glywed gennych. Os ydych yn cael trafferth i glicio ar un o’r dolenni canlynol, anfonwch e-bost at marketingteam@cwmpas.coop.
Diolch! |
Dydd Iau 14 Rhagfyr | 2yh Cyflwyniad i fod yn Hyrwyddwr Digidol |
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg. Os hoffech gael mynediad i’r sesiwn gyda chyfieithydd ar y pryd, dewiswch ‘ie’ ar y ffurflen gofrestru a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu un. Mae Hyrwyddwyr Digidol yn allweddol wrth ddatblygu’r agenda o gynhwysiad digidol ac yn helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau i gynhwysiad digidol drwy agor llwybrau ar gyfer eu cynulleidfaoedd, eu cydweithwyr a’u cleientiaid. Bydd y sesiwn hon yn pwysleisio pwysigrwydd cynhwysiant digidol ac yn amlinellu rôl Hyrwyddwyr Digidol o fewn yr agenda cynhwysiant. Byddwn yn: • Cyflwyno’r agenda cynhwysiant digidol. • Rhoi trosolwg o’r sgiliau digidol hanfodol.
• Trafod beth mae bod yn Hyrwyddwyr Digidol yn ei olygu, gan gynnwys sgiliau personol a fydd yn cael eu datblygu fel hyrwyddwr. |
News Resources Impact Spotlight Events Free digital skills sessions |
Scroll down to read this month’s edition. |
Monmouthshire Building Society becomes first financial institution to sign the Digital Inclusion Charter
Eve Wilkins, Chief Customer Officer at Monmouthshire Building Society, expressed her enthusiasm for this transformative partnership, stating, “We believe that financial inclusion goes hand-in-hand with digital inclusion. By joining forces with Digital Communities Wales, we are taking significant steps towards creating a more accessible and inclusive financial landscape in Wales. Our goal is to empower our colleagues and members with the knowledge and tools they need to navigate the digital world confidently.” Read more here.
--- Digital Inclusion Alliance Wales Steering Group welcomes new members
The House of Lords Communications and Digital Committee has criticised the UK Government’s response to its report on digital exclusion which it published in June. The Government’s response is described as lacking ambition and failing to engage with the concerns raised by the Committee’s report. The Committee emphasises that the divides between digital ‘haves and have-nots’ will deepen unless the UK Government takes the issue more seriously.
--- Digital Confidence Denbighshire Cwmpas has recently launched Digital Confidence Denbighshire, a new digital inclusion project in Denbighshire funded by Denbighshire County Council and UK Government through the Shared Prosperity Fund.
The project aims to build citizens' digital confidence by offering direct digital inclusion support to individuals within the county. Support will take the form of digital inclusion advice, digital drop-ins and training to allow citizens to access digital services they need for their everyday lives.
For more information contact dcdenbighshire@cwmpas.coop or call us on 0300 111 5050. --- Partnership working is key to successful launch of an electronic prescription service in Wales
The Digital Medicines Transformation Portfolio (DMTP) has worked closely with key partners in the NHS and industry to deliver the new service at pace – just 20 months after starting.
This partnership approach has ensured that patients in Rhyl are the first to benefit from EPS, which allows GPs to send prescriptions electronically to the patient’s choice of community pharmacy, without the need for a paper form. Read more here. |
Resource space to support your digital inclusion journey
Digital Communities Wales has a new training resources hub! You can find information and resources on volunteering, health and well-being, foundation and essential digital skills, online safety, digital accessibility, inspiring digital activities and the Welsh language on our hub space. If you're at the beginning of your digital inclusion journey, you can go to ‘Where to start’ as a first step You can also meet the team behind the DCW programme here.
--- National Digital Inclusion Network
Good Things Foundation’s National Digital Inclusion Network is made up of thousands of grassroots organisations that are all working to deliver digital inclusion support in their local communities. In Wales Good Things Foundation works in partnership with Digital Communities Wales.
If you’re a community organisation that is or wants to support your community members to get online and access the benefits of digital - then joining the network will help you do exactly that. It is free to join and offers a range of free services, such as:
• Access to the National Databank and National Device Bank • Free training and resources • Networking opportunities
• Access to the online learning platform, Learn My Way. The Welsh platform can be found here.
The network is open to any organisation that is delivering or wants to deliver digital inclusion support. Find out more and sign up here or contact hello@goodthingsfoundation.org for more information. ---
How to help someone you know get online
Use this map to search for somewhere near you for support in using the internet safely. The interactive map shows places you can go for support to develop your basic digital skills, use a device and access the internet. The map allows you to search by postcode for places to either go yourself or signpost those in need of support such as libraries and community centres.
|
Hafod - Digital Inclusion Charter Accredited
The Digital Inclusion Charter is for organisations in Wales which are promoting basic digital skills and helping people get online. Since the launch of the Charter hundreds of organisations have signed-up. Hafod are one of the organisations to sign the Charter and go on to achieve Accreditation status – you can read their organisational commitment here.
|
DCW Roadshow – Supporting your communities to engage with the NHS Wales App Digital Communities Wales; Digital Confidence health and wellbeing (DCW) in partnership with DSPP are delivering a Roadshow of Digital Inclusion training sessions in order to support to staff and volunteers to help others to engage with the upcoming NHS Wales App.
If you are interested in joining the session, we have four sessions upcoming. Sessions will be delivered in English with a Welsh interpreter. 15th January | 10am You can register for any of these free sessions here. ---
Why should your organisation join Digital Inclusion Alliance Wales?
Digital Inclusion Alliance Wales (DIAW) provides a unique opportunity for organisations to come together, collaborate, and have a meaningful impact in bridging the digital divide. The video testimonies of our members Cadi, Jo, Scott, Marcus, and Hannah, highlight the numerous benefits of being a part of this network.
If you are looking for further information about the Digital Inclusion Alliance Wales you can find out more here. If you want to watch the recordings of previous DIAW Network meetings, you can find them here. If you would like to join the DIAW, please get in touch diaw@cwmpas.coop or visit our website. Our next meeting is on December 14th 10:30am-12pm.
|
December's free digital skills sessions |
We are running free digital skills sessions in December, which can be found below. If you see a webinar in English that you’d like delivered in Welsh or vice versa please let us know. We are more than happy accommodate your needs and create bespoke training.
If your organisation has a training need and is unsure whether we can provide that training then please get in touch, we’d love to hear from you. If you have any problems clicking the links please e-mail marketingteam@cwmpas.coop.
Thank you! |
Thursday 14 December | 2pm Introduction to becoming a Digital Champion |
This session will be delivered in English. If you would like to access the session with a Welsh interpreter, please select yes on the registration form and we will make every effort to provide one. Digital Champions are at the forefront of digital inclusion and act as a beacon to help combat barriers to digital inclusion by opening pathways for their audiences, colleagues and clients alike.
This session emphasises the importance of digital inclusion and frames the role of a Digital Champion within the digital inclusion agenda. We will: • Introduce the digital inclusion agenda. • Overview the essential digital skills. • Discuss what is involved in being a Digital Champion, including personal skills that will be developed as a champion.
|
|
|
Cwmpas, Spark, Maindy Road, Cardiff, CF24 4HQ Click here to unsubscribe or here to change your Subscription Preferences. |
|
|
|