Digital inclusion news, resources, and events. Newyddion cynhwysiant digidol, adnoddau, a digwyddiadau.
Click here to view this email in your browser |
|
|
Newyddion Adnoddau Sbotolau effaith Digwyddiadau Sesiynau sgiliau digidol am ddim |
Sgroliwch i lawr i ddarllen rhifyn y mis hwn. |
Diweddariad ar gyllid ar gyfer Cymunedau Digidol Cymru Yn dilyn yr hysbysiad hwyr o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, sydd wedi gweld toriad o 50% £1 miliwn mewn cyllid i raglen Cymunedau Digidol Cymru, mae CDC a Cwmpas bellach mewn deialog barhaus â Llywodraeth Cymru ar ddarparu yn y dyfodol o Ebrill 1af. Bydd unrhyw ddiweddariadau ar ddarparu yn y dyfodol yn cael eu cyfleu i gleientiaid a rhanddeiliaid fel y bo'n briodol. Darllenwch Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024 i 2025. --- Dyfarnwyd Achrediad Siarter Cynhwysiant Digidol i DHCW ar ôl ymagwedd 'ragorol' Mae DHCW yn ymuno â 10 sefydliad arall i ennill achrediad. Dywedodd Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol DHCW: “Rwy’n hynod falch bod gwaith DHCW o ran cefnogi’r ymgyrch am genedl ddigidol gynhwysol wedi cael ei gydnabod gan Gymunedau Digidol Cymru. Mae cyflawni Achrediad y Siarter Cynhwysiant Digidol yn garreg filltir arwyddocaol yn ein hymrwymiad parhaus i sicrhau y gall pawb yng Nghymru gael mynediad at systemau digidol i’w grymuso i fyw bywydau iachach.” --- A yw pobl hŷn yn treulio mwy o amser ar-lein? Mae data newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn datgelu mai pobl dros 70 oed yw'r oedolion sydd fwyaf ar-lein yn y DU ar ôl pobl ifanc yn eu hugeiniau Mae Viktor Sunnemark a Michael Goodier yn dadansoddi'r duedd hon yn yn yr erthygl hon ar gyfer The Guardian, ac mae Pennaeth Ymchwil a Data Mewnwelediadau y Good Things Foundation, Katie Heard, yn archwilio'r canfyddiadau hyn hefyd. --- Boots yw'r ail gyflenwr system fferyllfa i brofi'r system presgripsiynau electronig (EPS) yng Nghymru Dywedodd Jenny Rose, Cyfarwyddwr Storfeydd Cymru, Glannau Mersi a Gorllewin Canolbarth Lloegr yn Boots: “Bydd presgripsiynau electronig yn ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i gleifion gael gafael ar y meddyginiaethau sydd eu hangen arnynt a bydd yn gwneud bywyd yn haws i feddygfeydd a thimau fferylliaeth hefyd. Ar ôl bod yng Nghymru ers dros 125 o flynyddoedd, rydym yn gyffrous i gefnogi cyflwyno presgripsiynau electronig yn y cyfnod prawf pwysig hwn a gobeithiwn cyflwyno EPS yn ein holl siopau yng Nghymru yn y dyfodol agos.” --- Digital Poverty Alliance - Adroddiad cynnydd dwy flynedd Mae'r adroddiad blynyddol yma gan y Gynghrair Tlodi Digidol yn amlinellu eu gwaith a'u heffaith dros y ddwy flynedd ers sefydlu'r grŵp. Ceir astudiaethau achos ar gyfer rhai o'u prosiectau allweddol, ac yn amlinellu’r cynnydd a’r amcanion fel rhan o’u Cynllun Cyflawni Cenedlaethol. --- Hyder Digidol Sir Ddinbych Mae Cwmpas newydd lansio Hyder Digidol Sir Ddinbych, prosiect cynhwysiant digidol newydd yn Sir Ddinbych a ariennir gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Bro. Nod y prosiect yw meithrin hyder digidol dinasyddion drwy gynnig cymorth cynhwysiant digidol uniongyrchol i unigolion o fewn y sir. Bydd cymorth ar gael megis cyngor cynhwysiant digidol, sesiynau galw heibio digidol a hyfforddiant uniongyrchol i alluogi dinasyddion i gael mynediad at wasanaethau digidol sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu bywydau bob dydd. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â dcdenbighshire@cwmpas.coop neu ffoniwch ni ar 0300 111 5050 --- |
Gofod adnoddau i gefnogi eich taith cynhwysiant digidol Mae Cymunedau Digidol Cymru ei hyb adnoddau hyfforddi newydd! Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ac adnoddau ar wirfoddoli, iechyd a lles, sgiliau digidol sylfaenol a hanfodol, diogelwch ar-lein, hygyrchedd digidol, gweithgareddau digidol ysbrydoledig a’r Gymraeg ar ein gofod hwb. Os ydych chi ar ddechrau eich taith cynhwysiant digidol, gallwch fynd i ‘Ble i ddechrau’ fel cam cyntaf Gallwch hefyd gwrdd â’r tîm y tu ôl i raglen Cymunedau Digidol Cymru yma. --- Rhwydwaith Cynhwysiant Digidol Cenedlaethol Mae Rhwydwaith Cynhwysiant Digidol Cenedlaethol y Good Things Foundation yn cynnwys miloedd o sefydliadau ar lawr gwlad sydd i gyd yn gweithio i ddarparu cymorth cynhwysiant digidol yn eu cymunedau lleol. Yng Nghymru, mae'r Good Things Foundation yn gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau Digidol Cymru. Os ydych chi'n sefydliad cymunedol sydd neu sydd eisiau cefnogi aelodau'ch cymuned i fynd ar-lein a chael mynediad at fuddion digidol - yna bydd ymuno â'r rhwydwaith yn eich helpu i wneud hynny'n union. Mae ymuno am ddim ac mae’n cynnig ystod o wasanaethau am ddim, fel: • Mynediad i'r Banc Data Cenedlaethol a'r Banc Dyfeisiau Cenedlaethol • Hyfforddiant ac adnoddau am ddim • Cyfleoedd rhwydweithio • Mynediad i'r llwyfan dysgu ar-lein, Learn My Way. Mae'r platfform Cymraeg i'w weld yma. Mae’r rhwydwaith yn agored i unrhyw sefydliad sy’n darparu neu sydd eisiau darparu cymorth cynhwysiant digidol. Darganfyddwch fwy a chofrestrwch yma neu cysylltwch â hello@goodthingsfoundation.org am ragor o wybodaeth. --- Sut mae helpu rhywun rydych yn ei adnabod i fynd ar-lein Defnyddiwch y map hwn i chwilio am rywle cyfagos i gael cymorth i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel. Mae’r map rhyngweithiol yn dangos llefydd sy’n cynnig cymorth ar gyfer datblygu eich sgiliau digidol sylfaenol, defnyddio dyfais a chael mynediad i’r rhyngrwyd. Mae’r map yn caniatáu ichi chwilio yn ôl cod post am lefydd naill ai ar eich cyfer chi neu ar gyfer y rhai y mae angen cymorth arnynt, fel llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol. --- |
Grŵp Cynefin Mae Grŵp Cynefin yn landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n gweithredu ledled Gogledd Cymru a Gogledd Powys. Gwyliwch eu hastudiaeth achos yn gweithio gyda Cymunedau Digidol Cymru yma. Meddai Dewi Smith, Rheolwr Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru, “Mae’r astudiaeth achos wir yn dangos gwerth sgiliau digidol a sut y gall y rhain helpu i wella lles […] Drwy weithio mewn partneriaeth â Grŵp Cynefin rydyn ni wedi gallu cefnogi pobl a fyddai fel arall wedi’u hallgáu’n ddigidol i ymgysylltu â’r byd ar-lein.” --- |
Lleswyl 2024: Dytma gyflwyno talent cerddorol, wedi'i ddarlledu o faes yr ŵyl yn syth i'ch ystafell fyw Mae Lleswyl yn ddigwyddiad sy’n cael ei ffrydio yn fyw i’ch cartref, fel cydnabyddiaeth fod 1.2 miliwn o oedolion sy'n byw yng Nghymru sy’n ddioddef â salwch corfforol bob dydd. Mae cyflyrau acíwt a chronig, anabledd, neu unigrwydd, yn atal pobl rhag mwynhau profiadau cymdeithasol. Nod Daring to Dream yw newid hyn. Maent wedi sicrhau bandiau sy'n chwarae’n rheolaidd mewn gwyliau mawr fel Green Man, Womad, Glastonbury a nawr Lleswyl! Gwyliwch ar ben eich hun, gyda'ch teulu, neu gyda’ch ffrindiau. Dydd Gwener 23 Chwefror | 7-10yh Cewch docynnau am ddim fan hyn: https://lleswyl2024.eventbrite.co.uk/ --- Sioe Deithiol DCW – Cefnogi eich cymunedau I ymgysylltu ag Ap GIG Cymru Mae Cymunedau Digidol Cymru; Hyder Digidol, Iechyd a Lles (DCW) mewn partneriaeth â DSPP yn cyflwyno sesiynau hyfforddi Sioe Deithiol Cynhwysiant Digidol er mwyn cefnogi staff a gwirfoddolwyr i helpu eraill i ymgysylltu ag Ap GIG Cymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r sesiwn, mae gennym bedwar sesiwn ar y gweill. Bydd y sesiynau'n cael eu cyflwyno yn Saesneg gyda chyfieithydd ar y pryd Cymraeg: • 14 Chwefor | 2yh • 5 Mawrth | 10yb • 20 Mawrth | 10yb Gallwch gofrestru ar gyfer unrhyw un o'r sesiynau rhad ac am ddim yma. --- Pam dylai eich sefydliad ymuno â Chynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru? Mae Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru yn rhoi cyfle unigryw i sefydliadau ddod ynghyd, cydweithio, a chael effaith go iawn wrth bontio’r rhaniad digidol. Mae’r dystiolaeth fideo gan ein haelodau Cadi, Jo, Scott, Marcus, a Hannah, yn tynnu sylw at y manteision di-ri o fod yn rhan o’r rhwydwaith hwn a gallwch wylio’r fideo hwnnw isod. Os ydych yn chwilio am ragor o wybodaeth am Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru gallwch gael rhagor o wybodaeth yma. Os ydych chi eisiau gwylio recordiadau cyfarfodydd Rhwydwaith CCDC blaenorol, gallwch ddod o hyd iddynt yma. Mae'r cyfarfodydd yn agored i holl aelodau’r CCDC. Os hoffech ymuno, e-bostiwch diaw@cwmpas.coop neu ewch i’n gwefan. --- |
Sesiynau sgiliau digidol rhad ac am ddim mis Chwefror |
Os ydych yn gweld gweminar yn Saesneg yr hoffech chi ei gweld yn cael ei chyflwyno yn Gymraeg neu i'r gwrthwyneb, rhowch wybod i ni. Rydym yn fwy na pharod i deilwra hyfforddiant pwrpasol at eich anghenion. Os rydych angen hyfforddiant yn eich sefydliad a’ch bod yn ansicr os allwn ddarparu'r hyfforddiant hwnnw, yna cysylltwch â ni, byddwn yn falch iawn o glywed gennych. Os ydych yn cael trafferth i glicio ar un o’r dolenni canlynol, anfonwch e-bost at marketingteam@cwmpas.coop. Diolch! |
Dydd Mercher 14 Chwefror | 2yh Ap GIG Cymru: Helpu Eraill i fod Ar-lein |
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg. Os hoffech gael mynediad i’r sesiwn gyda chyfieithydd ar y pryd, dewiswch ‘ie’ ar y ffurflen gofrestru a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu un. Sesiwn hyfforddi i aelodau staff a gwirfoddolwyr i gefnogi pobl i ymgysylltu ag ap GIG Cymru. Mae Cymunedau Digidol Cymru; Hyder Digidol, Iechyd a Lles (DCW) mewn partneriaeth â DSPP yn cyflwyno sesiynau hyfforddi Sioe Deithiol Cynhwysiant Digidol er mwyn cefnogi staff a gwirfoddolwyr i helpu eraill i ymgysylltu ag Ap GIG Cymru. Bydd y sesiwn yn ymdrin â: • Helpu pobl i fynd ar-lein a Deall rhwystrau i bobl ymgysylltu ar-lein • Sgiliau a Nodweddion yr ap • Defnyddio nodweddion Hygyrchedd digidol • Bod yn ddiogel ar-lein |
News Resources Impact spotlight Events Free digital skills sessions |
Scroll down to read this month’s edition. |
Update on the funding for Digital Communities Wales Following the late notification of the draft Welsh Government budget, which has seen a 50% £1million cut in funding to the Digital Communities Wales programme, DCW and Cwmpas are now in ongoing dialogue with Welsh Government on future delivery from April 1st. Any updates on future delivery will be communicated to clients and stakeholders as appropriate. Read Welsh Government's Draft Budget 2024 to 2025. --- DHCW awarded Digital Inclusion Charter Accreditation after 'exemplary' approach DHCW joins 10 other organisations to be awarded accreditation. Helen Thomas, CEO of DHCW, said: “I am extremely proud that DHCW’s work in supporting the drive for a digitally inclusive nation has been recognised by Digital Communities Wales. Achieving Digital Inclusion Charter Accreditation is a significant milestone in our ongoing commitment to ensuring that everyone in Wales can access digital systems to empower them to lead healthier lives.” --- Are older people really spending more time online? New data from the Office of National Statistics reveals that Over-70s are UK’s most online adults after twenty-somethings. Viktor Sunnemark and Michael Goodier analyse this trend in this piece for The Guardian, and Good Things Foundation’s Head of Research and Data Insights, Katie Heard, explores these findings as well. --- Boosts become second pharmacy to test electronic prescription system (EPS) in Wales Jenny Rose, Director of Stores for Wales, Merseyside and West Midlands at Boots, said: “Electronic prescriptions will make it easier and safer for patients to access the medicines they need and will make life easier for GP surgeries and pharmacy teams too. Having been present in Wales for over 125 years, we are excited to support the introduction of electronic prescriptions in this important test phase and hope to roll out EPS to all our Wales stores in the near future.” --- Digital Poverty Alliance - Two year progress report This annual report from the Digital Poverty Alliance outlines their work and impact over the two years since the group’s foundation. It gives case studies for some of their key projects, and outlines progress against their National Delivery Plan, aims. --- Digital Confidence Denbighshire Cwmpas has recently launched Digital Confidence Denbighshire, a new digital inclusion project in Denbighshire funded by Denbighshire County Council and UK Government through the Shared Prosperity Fund. The project aims to build citizens' digital confidence by offering direct digital inclusion support to individuals within the county. Support will take the form of digital inclusion advice, digital drop-ins and training to allow citizens to access digital services they need for their everyday lives. For more information contact dcdenbighshire@cwmpas.coop or call us on 0300 111 5050 --- |
Resource space to support your digital inclusion journey Digital Communities Wales has a new training resources hub! You can find information and resources on volunteering, health and well-being, foundation and essential digital skills, online safety, digital accessibility, inspiring digital activities and the Welsh language on our hub space. If you're at the beginning of your digital inclusion journey, you can go to ‘Where to start’ as a first step You can also meet the team behind the DCW programme here. --- National Digital Inclusion Network Good Things Foundation’s National Digital Inclusion Network is made up of thousands of grassroots organisations that are all working to deliver digital inclusion support in their local communities. In Wales Good Things Foundation works in partnership with Digital Communities Wales. If you’re a community organisation that is or wants to support your community members to get online and access the benefits of digital - then joining the network will help you do exactly that. It is free to join and offers a range of free services, such as: • Access to the National Databank and National Device Bank • Free training and resources • Networking opportunities • Access to the online learning platform, Learn My Way. The Welsh platform can be found here. The network is open to any organisation that is delivering or wants to deliver digital inclusion support. Find out more and sign up here or contact hello@goodthingsfoundation.org for more information. --- How to help someone you know get online Use this map to search for somewhere near you for support in using the internet safely. The interactive map shows places you can go for support to develop your basic digital skills, use a device and access the internet. The map allows you to search by postcode for places to either go yourself or signpost those in need of support such as libraries and community centres. --- |
Grŵp Cynefin Grŵp Cynefin is a registered social landlord operating across North Wales and North Powys. Watch the case study on their work with Digital Communities Wales here. Dewi Smith, Programme Manager at Digital Communities Wales said, “The case study really demonstrates the value of digital skills and how these can help improve wellbeing […] Through working in partnership with Grŵp Cynefin we have been able to support people who otherwise might be digitally excluded to engage with the online world.” --- |
Lleswyl 2024: Top musical talent, transported from the festival field to your front room! Lleswyl is a live-streamed, at-home event, in recognition that 1.2 million adults living in Wales are grappling daily with a physical illness. Acute and chronic conditions, disability, or loneliness, prevent people from accessing many social experiences, which Daring to Dream wants to change. They’ve secured bands who are regulars on the festival circuit – Green Man, Womad, Glastonbury and now Lleswyl! Watch with your family, your friends or on your own. Friday 23 February | 7-10pm | Online Get your free tickets: https://lleswyl2024.eventbrite.co.uk/ --- DCW Roadshow – Supporting your communities to engage with the NHS Wales App Digital Communities Wales; Digital Confidence health and wellbeing (DCW) in partnership with DSPP are delivering a Roadshow of Digital Inclusion training sessions in order to support to staff and volunteers to help others to engage with the upcoming NHS Wales App. If you are interested in joining the session, we have four sessions upcoming. Sessions will be delivered in English with a Welsh interpreter. • 14 February | 2pm • 5 March | 10am • 20 March | 10am You can register for any of these free sessions here. --- Why should your organisation join Digital Inclusion Alliance Wales? Digital Inclusion Alliance Wales (DIAW) provides a unique opportunity for organisations to come together, collaborate, and have a meaningful impact in bridging the digital divide. The video testimonies of our members Cadi, Jo, Scott, Marcus, and Hannah, highlight the numerous benefits of being a part of this network. If you are looking for further information about the Digital Inclusion Alliance Wales you can find out more here. If you want to watch the recordings of previous DIAW Network meetings, you can find them here. If you would like to join the DIAW, please get in touch diaw@cwmpas.coop or visit our website. Our next meeting is on 15 March 11am-12:30pm. --- |
February's free digital skills sessions |
If you see a webinar in English that you’d like delivered in Welsh or vice versa please let us know. We are more than happy accommodate your needs and create bespoke training. If your organisation has a training need and is unsure whether we can provide that training then please get in touch, we’d love to hear from you. If you have any problems clicking the links please e-mail marketingteam@cwmpas.coop. Thank you! |
Wednesday 14 February | 2yh NHS Wales App: Helping People to Get Online |
This session will be delivered in English. If you would like to access the session with a Welsh interpreter, please select yes on the registration form and we will make every effort to provide one. Training session for Staff members and volunteers to support people to engage with the NHS Wales app. Digital Communities Wales; Digital Confidence Health and Wellbeing (DCW) in partnership with DSPP are delivering a Roadshow of Digital Inclusion training sessions in order to support to staff and volunteers to help others to engage with the upcoming NHS Wales App. The session will cover: • Helping people to get online and Understanding barriers to people engaging online • Skills and app features when engaging with the NHS Wales App • Using digital Accessibility features • Being safe online |
|
|
Cwmpas, Spark, Maindy Road, Cardiff, CF24 4HQ Click here to unsubscribe or here to change your Subscription Preferences. |
|
|
|